Ein Hanes
Dyma rhai o dyddiadau pwysig yn hanes y Capel.
1792 |
Cychwyn yr Achos yn nhŷ Esther Phillips, gweddw oedd yn byw yn Heol y Santes Fair rhywle yng nghefn Gwesty Yr Angel a Swyddfa Argraffu'r 'Tivy-Side'. |
1803 |
Cael darn o ardd yn Feidr Fair gan y perchennog, David Davies masnachwr, i godi capel amo i'r eglwys. Ei agor, heb ei orffen, yn 1805. Adeilad bychan a bregus. |
1831 |
Oherwydd y cynnydd yn yr eglwys gyda dyfodiad Daniel Davies yn weinidog yn 1812, penderfynwyd tynnu capel 1805 i lawr ac adeiladu capel newydd ar yr un safle. Agorwyd y capel newydd yn 1833 gyda danddrws yn gwynebu lle mae'r maes parcio heddiw, a'i bulpud a'i getn ar mur rhwng y llawr a lle mae'r festri heddiw. |
1870 |
Penderfynwyd helaethu a newid cynllun capel 1833. Er gwaethaf anawsterau, agorwyd yr adeilad newydd ym Medi 1870. Hwn yw'r capel presennol. |
1885 |
Prynwyd y tri bwthyn oedd wrth ochr y capel newydd, eu tynnu i lawr ac adeiladu'r festri a'r Ty Capel yn eu lle. |
1905 |
Dathlu Canmlwyddiant Capel Mair. Adnewyddu helaeth ar y capel Cyhoeddi Hanes yr Achos, sef anerchiad O. Beynon Evans, yn yr Adroddiad Eglwysig. |
1910 |
Prynu tir ac adeiladu siambr organ yng nghefn y pulpud, a dechrau defnyddio'r organ, Medi 26, 1910. |
1938 |
Ym mis Chwefror ailagorwyd y capel ar 61 atgyweiriadau helaeth i'r adeilad. Llawer o'r gwaith hwnnw yn aros eto. |
1955(Tachwedd) |
Cyfarfodydd Dathlu Trydydd Jiwbili yr Achos. Cyhoeddi Hanes Capel Mair (D. J. Roberts). Arddangosfa, &c. |
1962 |
Ychwanegiadau at y festri (cegin, ystafell ymolchi, llwyfan, &c) at wasanaeth yr Eglwys a'r Ty Capel. |
1969 |
Adnewyddu'r capel a'i addurno ar gyfer Cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr (Mehefin 1970) a Chanmlwyddiant y capel presennol. |
1980 |
Ailagor y festri ar ôl adnewyddiadau ac ymestyniad iddi. |
1981 |
Ym mis Ebrill ymddangosodd rhifyn cyntaf "Y Feidr", sef cylchgrawn chwe misol Capel Mair, o dan arolygiaeth D. Melvin Davies. |
1984 |
Ailagor y Capel ar ôl ei adnewyddu, nos Sul, Medi 9fed. Llywyddwyd yr oedfa gan Y Parchedig Ddr Emlyn G. Jenkins, gyda'r Parchedig D. J.Roberts yn annerch. Adnewyddwyd yr organ hefyd, ac i ddathlu hyn cafwyd datganiad gan Jane Watts ar yr organ y nos Wener ganlynol. |
1985 |
Cyfarfod Teymged i ddathlu hanner canmlwyddiant gweinidogaeth y Parchedig D. J. Roberts, Medi 20fed. |
1995 |
Oedfa Anrhydeddu'r Selogion, Medi 17eg, sef gwasanaeth i ddathlu trigain mlwyddiant ordeinio'r Parchedig D. J. Roberts, ac i gydnabod cyfraniad arbennig Mrs Iris Davies, Mrs Beti Emanuel, Mrs Lynne Thomas (Organyddion), a Mrs Annie Thomas (Athrawes Ysgol Sul ) i'r eglwys yng Nghapel Mair dros gyfnodau hir. |
2003 |
Adnewyddu a phaentio'r adeiladau oddi allan. |
2004 |
Adnewyddu, addasu ac addurno'r adeiladau oddi mewn. |